Yn brawf o’u gorfoledd, roedd cefnogwyr y Wal Goch yn dawnsio’r conga yn Riga ddechrau’r wythnos. Huw Bebb sy’n bwrw golwg ar fuddugoliaeth yr oedd mawr ei hangen…

Roedd gorfoledd ar strydoedd Riga nos Lun wrth i ffyddloniaid y Wal Goch ddathlu buddugoliaeth Cymru yn erbyn Latfia, a bois bach roedd angen y canlyniad hwn arnom!