Bu yn bencampwriaeth boenus i’r merched yn y Chwe Gwlad hyd yma eleni. Ond mae cyfle i orffen ar nodyn cadarnhaol ddydd Sadwrn. Seimon Williams sydd â’r hanes…

“Doedd yr awch a’r egni ddim yno… droion ni ddim lan” oedd geiriau capten Cymru, Hannah Jones, ar ôl y grasfa o 36-5 yng Nghorc bythefnos yn ôl. Ac mi oedd y perfformiad yn anodd ei ddeall. Cyn y gêm, y drafodaeth oedd nid p’un ai byddai Cymru’n ennill, ond maint y fuddugoliaeth. Fe gyfaddefodd y cyn-chwaraewr rhyngwladol Philippa Tuttiett iddi broffwydo buddugoliaeth o bymtheg o bwyntiau i Gymru, ar bodlediad Gwyddelig, ac unig sylw’r cyflwynwyr oedd eu bod yn disgwyl sgôr fwy na hynny. Wedi’r cyfan, methodd y Gwyddelod â chyrraedd Cwpan Rygbi’r Byd yn 2022, a nhw oedd ar waelod y tabl yn y Chwe Gwlad llynedd ar ôl sgorio tri chais a 25 o bwyntiau ar draws y bencampwriaeth gyfan. Doedden nhw ddim chwaith wedi ennill yn y bencampwriaeth yn eu saith gêm ddiwethaf. Yn y gêm hon, pasiodd Iwerddon 25 pwynt a sgorio’u pedwerydd cais ar ôl dim ond 41 o funudau.

Fe eglurodd Hannah Jones ystyr ei sylwadau ymhellach mewn llythyr agored i’r cefnogwyr – sôn am fethiant i gymryd mantais o’r cyfleoedd oedd yn cael eu creu oedd hi. Ac, yn sicr, mi oedd Cymru’n wallus yn hyn o beth.

Newidiwyd bron i hanner y tîm gan Ioan Cunningham, y prif hyfforddwr, cyn yr ornest gyda Ffrainc dros y Sul. Ac eto, mi oedd yr un hen broblemau yn amlygu eu hunain. Digon o feddiant a thir – dros 60% o’r ddwy elfen – digon o amser yn nwfn yn hanner y gwrthwynebwyr, cariwyd y bel dros ddwywaith gymaint o weithiau, pasiwyd y bêl ddwywaith gymaint â’r Ffrancwyr. Ond yn effeithlonrwydd y gwaith oedd y wers – Ffrainc yn cario llai ond yn ennill mwy o fetrau, yn curo mwy o daclwyr, yn dadlwytho ddwywaith gymaint, ac yn sgorio chwe chais, a phedwardeg o bwyntiau, i ddim.

Erbyn hyn, mae’r tebygrwydd rhwng Chwe Gwlad y menywod ac ymdrech y dynion yn gynharach yn y flwyddyn yn dod yn fwyfwy amlwg. Digon o addewid er colli yn y gemau cynnar – adref yn erbyn yr Alban, bant yn erbyn Lloegr – gydag awgrym o ymgais i ledu’r bêl, i fod yn fwy uchelgeisiol. Colli’n drwm yn Iwerddon, cyn i Ffrainc ddod i Gaerdydd a thorri’n rhydd ar ôl hanner cyntaf cystadleuol. Ac wedyn yr Eidal i orffen, i geisio osgoi’r llwy bren. Tîm sydd eisoes wedi llwyddo lle fethodd Cymru, yn Iwerddon, yn ail rownd y twrnamaint.

Bydd rhaid i Gymru guro’r Eidal gyda phwynt bonws ac o 19 o bwyntiau, o leiaf, i osgoi’r llwy bren. Mae’n anodd rhagweld perfformiad o’r fath. Dim ond 33 o bwyntiau, a thri chais, sydd wedi’u sgorio gan y tîm drwy’r bencampwriaeth – a daeth dros hanner y pwyntiau hynny, a dau o’r tri chais, yn y gêm agoriadol yn erbyn yr Alban. Ers hynny, sgoriwyd un cais a deg o bwyntiau wrth golli i Loegr, pum pwynt ac un cais wrth golli i’r Iwerddon, a dim un cais na phwynt wrth golli adref i’r Ffrancwyr.

Nid fel hyn, wrth gwrs, oedd hi i fod. Daeth Cymru i mewn i’r bencampwriaeth yn dawel hyderus. Oedd, roedd yna fwriad i arbrofi rhywfaint, i roi cyfleoedd i’r to ifanc wrth baratoi ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd y flwyddyn nesaf. Oedd, roedd llond dwrn o gewri wedi ymddeol – Sioned Harries ac Elinor Snowsill yn rhoi’r gorau iddi – ond roedd yna graidd o chwaraewyr gwydn, cadarn oedd  yn eu hail dymor fel chwaraewyr proffesiynol. Yr amcan oedd efelychu, os nad gwella ar y trydydd safle’r llynedd a, thrwy hynny, sicrhau eu lle yn gynnar i Gwpan Rygbi’r Byd. Mae hynny, bellach, yn amhosib.

Y ffordd ymlaen?

Y cwestiwn mawr yw ai Cymru sydd wedi gwaethygu, neu ai’r gweddill sydd wedi gwella? Bu Lloegr a Ffrainc yn broffesiynol ers amser, a hawdd oedd gweld effaith hynny ar y cae. Ond aeth Cymru’n broffesiynol cyn yr Albanwyr a’r Gwyddelod, ac ai, felly, y fantais hynny oedd y prif ffactor yn llwyddiannau 2023? Mae’n cyd-Geltiaid bellach wedi proffesiynoli hefyd, ac mae mantais y llynedd wedi diflannu. Am y tro, o leiaf.

Ar ôl y golled ar yr ynys werdd, ychydig iawn o feirniadaeth oedd o’r tîm hyfforddi. Yn hytrach, y system oedd dan y lach. Ar ddechrau’r bencampwriaeth, y teimlad oedd bod presenoldeb cymaint o’r tîm yn uwch-gynghrair Lloegr yn gaffaeliad. Erbyn hyn, mae yna bryderon mai annoeth yw disgwyl i wlad arall ddatblygu’n chwaraewyr gorau ni.

A ddylid cynyddu ymdrechion i atgyfnerthu cynghrair Cymru? Dros yr wythnos diwethaf, daeth sawl datganiad gan bobol sydd â thipyn o brofiad o’r gêm yng Nghymru i’r perwyl mai rhyw guddio ffaeleddau’r system mae’r Undeb wedi bod wrthi’n gwneud gyda’r gwariant ar rai elfennau o gêm y menywod dros y blynyddoedd diwethaf. Dros y cyfnod clo, polisi’r Undeb oedd annog eu chwaraewyr gorau i chwilio am gyfleoedd yn Lloegr. O ganlyniad, diflannodd nifer fawr o dimoedd.

Bu Cunningham yn frwd o blaid cryfhau’r gêm o fewn Cymru. Mae sefydlu timau rhanbarthol i chwarae’r Her Geltaidd – Brython Thunder a Gwalia Lightning – yn welliant, ond dim ond am ychydig o wythnosau o fewn tymor mae’r timau’n bodoli. Gyda phwysau ar glybiau Lloegr i flaenoriaethu chwaraewyr sy’n gymwys i chwarae i Loegr, llai a llai o gyfleodd bydd i chwaraewyr gorau gwledydd eraill, gan gynnwys Cymru, i fagu profiad ar y lefel uchaf.  O fewn gêm y dynion, wrth gwrs, nid yw sïon am gynghrair Eingl-Gymreig byth yn bell o’r wyneb, ac un posibiliad byddai ceisio cael lle i un neu ddau o dimau o Gymru yng nghynghrair Lloegr. Ond annhebygol iawn fyddai hynny. Bu trafodaethau ar adegau dros y blynyddoedd ond – eto, yn debyg i gêm y dynion – ychydig iawn o ddiddordeb sydd gan Loegr yn y syniad.

Yr her, felly, yw i ganfod strwythur fydd yn galluogi talent ifanc – ac mae yna dipyn yn dod trwy’r timau iau – i flodeuo. Ond un nodyn fan hyn. Oes, mae gan Loegr a Ffrainc gynghrair broffesiynol, ac felly mae’n haws iddynt ddatblygu chwaraewyr ar lefel clwb. Ond mae’r Alban a’r Iwerddon yn yr un cwch â Chymru, ac felly nid dim ond y diffyg llwybr clir sydd wrth wraidd perfformiadau’r misoedd diwethaf. Soniodd Cunningham ar ddiweddglo’r gêm ddydd Sul bod gan Gymru eu platiau dysgu ymlaen o hyd, gan bwyntio at gyflwr y gêm a lefel rhyngwladol – Cymru’n 13eg yn y byd ac wedi methu ag ennill gem mewn dwy flynedd a hanner – cyn troi’n broffesiynol yn 2022. Am y tro cyntaf, daeth beirniadaeth o’r tîm hyfforddi, gyda’r cyn-chwaraewr rhyngwladol Dyddgu Hywel yn cwestiynu agwedd Cunningham. “Taswn i’n eistedd yn yr ystafelloedd newid ar ôl colli 40-0, a gwrando ar yr hyfforddwr yn dweud ei fod yn hapus iawn gyda’r ymdrech… dwi ddim yn meddwl bod hynny’n dderbyniol”.

Gwastadu’r cae chwarae

Mi fydd yna daith Llewod i Seland Newydd yn 2027 – y tro cyntaf i’r menywod gael y cyfle penodol hwn sydd wedi bod ar gael i’r dynion ers 120 o flynyddoedd a mwy. O ystyried y bwlch enfawr rhwng Lloegr a’r gweddill – chwalodd Loegr y Gwyddelod o 88-10 penwythnos diwethaf – mae yna ddisgwyl, os nad pryder, mai tîm o Saeson yn bennaf bydd yn cynrychioli’r ynysoedd hyn ar y daith gyntaf hanesyddol.

I geisio cau’r bwlch, mae noddwyr y daith wedi sicrhau y bydd y pedwar gwlad yn rhannu grant gwerth £3 miliwn. Mater i’r Undebau unigol bydd penderfynu sut i wario’r arian. Bwriad Undeb Rygbi Cymru yw i benodi pum aelod newydd o staff i edrych ar ôl perfformiad, sgiliau, y darnau gosod a datblygiad corfforol. Gwerth cwestiynu pam nad yw’r swyddi hyn yn bodoli eisoes, efallai. Bydd yr arian hefyd yn cynorthwyo’r Undeb i gynyddu’r ymdrechion i adnabod chwaraewyr sydd â photensial o fewn Cymru, a rheiny tu allan i’r wlad sy’n gymwys trwy berthynas teulu i wisgo’r crys coch.

Un cyfle olaf

Nôl, felly, i gêm olaf y bencampwriaeth. Stadiwm y Principality bydd y llwyfan. Efallai na fydd torf fawr yn llifo’n eiddgar i weld y tîm yn cipio’u lle yng Nghwpan y Byd, ond mi fydd digon ar y gêm.

Roedd yna arwyddion yn erbyn Ffrainc bod yna ymdrech i fod yn fwy uchelgeisiol, yn llai uniongyrchol. Ond mae newid agwedd yn waith hirdymor. Y feirniadaeth hyd yn hyn yw eu bod yn or-ddibynol ar garwyr cryf y rheng flaen. Mae’n rhaid ei fod yn demtasiwn, gyda chwaraewyr fel Sisilia Tuipulotu a Gwenllïan Pyrs yn y pac, i ofyn iddyn nhw greu cyfleoedd. Ond, o ystyried y gwelliant ymysg timau eraill y bencampwriaeth, nid yw hynny bellach yn ddigon – mae’r lleill hefyd yn gorfforol, hefyd yn wydn. Mae’r tîm nawr yn adeiladu cyfnodau o bwysau – saith ymweliad i 22 Ffrainc, mwy na hynny i 22 Lloegr – ond y pwyll i greu cyfleoedd a’u gorffen sydd ar goll ar hyn o bryd.

Mae’r Eidal wedi neidio o flaen Cymru i’r chweched safle yn rhestr detholion y bydd, gyda Chymru’n syrthio i’r wythfed safle, tu ôl i bawb ond Iwerddon o’r Chwe Gwlad. Mi fydd yr ymwelwyr, felly, yn hyderus, er gwaethaf eu colled adref yn erbyn yr Albanwyr dros y penwythnos.

Mae hi’n ddeuddeg mlynedd ers i’r Eidalwyr golli yng Nghymru (er i Gymru ennill yn gyffyrddus, a gyda phwynt bonws, yn Parma y llynedd). Mi fydd yn dalcen caled i’r Cymry eto eleni. Os oes yna arwyddion bod yr agwedd yn newid, nid oes canlyniad i’r mentro hyd yma. Da o beth fyddai gweld pethau’n clicio, a’r llwy bren yn cael ei hosgoi, dydd Sadwrn.

 

Cymru v Yr Eidal 12.15 ddydd Sadwrn – y gêm yn fyw ar BBC One Wales a sylwebaeth yn Gymraeg ar Radio Cymru