Mae cwmni yn y gogledd yn cyflogi 24 o bobol leol ac yn cyfrannu at ymdrechion Cymru i fod yn Genedl Masnach Deg…

Blaenoriaeth cwmni o Wynedd yw sicrhau cyflog ac amodau gwaith teg i’r holl weithwyr sydd wedi dod i gyswllt â chynnyrch eu siop.

Pan ddaeth Cymru’n Genedl Masnach Deg gyntaf y byd yn 2008, roedd Jolene Barton yn gwirfoddoli gyda’r project sy’n sicrhau bod cynhyrchwyr yn cael tâl teg am eu cynnyrch.