Mae ffotograffydd ifanc yn tynnu lluniau fel ffordd o ymdopi gyda salwch sy’n gwanio ei gyhyrau…

Mae ffotograffydd o Abertawe yn tynnu lluniau fel ffordd o drafod anghyfiawnderau ac i ddod i’r afael â chyflwr sy’n effeithio ar ei gyhyrau.

Cafodd Jack Moyse ddiagnosis o nychdod cyhyrol fasioscapwlohwmerol (FSHD) tua deng mlynedd yn ôl, cyflwr sy’n golygu bod ei gyhyrau’n gwanhau.