Mae pleidlais ar y polisi yn y Senedd yr wythnos hon…

Ddydd Sul fe fydd polisi 20 millti-yr-awr Llywodraeth Cymru yn dod i rym wedi iddo fod yn bwnc llosg ar dafodau’r Cymry ers rhai misoedd.

Wedi llawer o ymatebion cymysg ac anghytuno wrth i’r genedl baratoi am y newid, dengys pôl piniwn diweddar gan ITV Cymru bod 66% o’r cyhoedd yn wrthwynebus.

Yn ôl yr arolwg, dim ond 31% ddywedodd eu bod nhw’n cefnogi’r terfyn cyflymder newydd.