Yr wyf yn ysgrifennu hwn cyn i’r gyfres Côr Cymru ddod i ben, ond gwelais a chlywais ddigon i ddweud yr hyn yr wyf eisiau ei ddweud.

Dau beth yn wir. Un yw i ddweud fy mod wedi rhyfeddu at y dewis a wnaed gan y rhan fwyaf o’r corau. Pob iaith ond y Gymraeg yn dderbyniol mae’n amlwg. Gwir fod pob côr yn canu un darn yn Gymraeg, oherwydd rheol S4C debyg, a diolch amdani neu go brin y byddai eitem Gymraeg gan y rhan fwyaf o’r corau.