Mae hi’n debygol iawn y gwelwn ni ddynes yn Gomisiynydd Heddlu, a hynny am y tro cyntaf erioed yn hanes ein gwlad…

Heddiw fe fydd etholwyr ar draws Cymru yn dewis Comisiynwr Heddlu dros eu hardal nhw. Ers 12 mlynedd bellach rydan ni wedi bod yn ethol y Comisiynwyr hyn i gadw llygad ar waith Heddluoedd y De, Dyfed-Powys, Gwent a’r Gogledd.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn mynd ati i greu ‘Cynllun Heddlu a Throseddu’ ac yn gosod cyllidebau ar gyfer y llu yn eu hardal.