Beth oedd y Cymry yn 1905 yn dychmygu y byddai eu gwlad nhw fel yn 2002?

Ro’n i’n gwrando ar bodlediad Sgribls a oedd yn cynnwys sgwrs ddifyr rhwng Marged Berry ac Adam Pearce am ei gwmni cyhoeddi, Llyfrau Melin Bapur. Mae’r cyhoeddwr annibynnol, ymhlith pethau eraill, yn arbenigo mewn clasuron llenyddol yn y Gymraeg, gan gynnwys cyflwyno darganfyddiadau newydd o lenyddiaeth y gorffennol.