Y bore ’ma, mi feddyliais i amdanoch chi.

Roedd fy merch wedi mynd i’r ysgol heb frecwast, yn llawn tawelwch dig, rhwystredig, am ryw reswm na fydda i’n cael gwybod be’ ydi o. Gadawodd lanast ar ei hôl, yn golur ar ochr y sinc, ac arogl persawr a’r vape mae hi’n meddwl nad ydw i’n gwybod amdano. Roedd clep y drws fel rheg wrth iddi adael, ac fe feddyliais i tybed oedd hi am fod mewn tymer uffernol efo chithau hefyd heddiw, yn ateb yn ôl ac yn gwgu ar bawb.