Mae tri math o ymweliad â Aotearoa (Seland Newydd) ac mae dau ohonynt yn gyfarwydd iawn i nifer o Gymry. Mynd yno ar ryw fath o daith rygbi yw un; i ddilyn Cymru, y Llewod neu Gwpan y Byd. Mynd yno am gyfnod hirach yw’r llall, a hynny i weithio, yn y diwydiant amaethyddol gan amlaf. Hynny yw, cael y profiad o fyw yno go-iawn.