Mewn modd nodweddiadol ddi-ras a hunanbwysig, cyhoeddodd Vaughan Gething yr anochel wythnos diwethaf; byddai’n rhoi’r gorau i fod yn Brif Weinidog. Ei etifeddiaeth, dybiwn i, fydd achosi’r cyfnod anoddaf i’r blaid Lafur yng Nghymru ei weld erioed, gan greu iddi dwll y bydd yn anodd dod allan ohono.