Dwi’n ystyried fy hun yn ofnadwy o ffodus o ran fy ngwaith. Erbyn heddiw, rwyf mwy neu lai yn cael gwneud yn union fel rwyf yn dymuno. Ond mae hynny oherwydd blynyddoedd ar flynyddoedd o waith caled. A gyda threiglad amser dyma brofiad bywyd ac aeddfedrwydd, ac efallai mai hyn mewn gwirionedd sydd yn caniatáu i mi fod mor fodlon hefo’r hyn dwi’n ei wneud.