Glywsoch chi am y band hip-hop Gwyddelig lwyddodd i dynnu blewyn o drwyn Arweinydd Plaid Geidwadol Prydain?

Tra yn Ysgrifennydd Busnes roedd Kemi Badenoch wedi atal triawd Kneecap rhag derbyn grant i hyrwyddo eu cerddoriaeth dramor – er bod y British Phonographic Industry wedi rhoi sêl bendith i’r cais.

Doedd Kemi ddim am roi arian y trethdalwyr “i bobol sy’n gwrthwynebu bodolaeth y Deyrnas Unedig”… mae Kneecap eisiau Iwerddon unedig.

Ond nawr mae Llywodraeth Lafur Prydain wedi cydnabod fod gwrthod y grant yn “anghyfreithlon” ac wedi cytuno i dalu’r arian a chostau cyfreithiol Kneecap, a oedd wedi herio penderfyniad Badenoch yn y llysoedd.

Ac mae’r band yn rhannu’r £14,250 o grant rhwng dau gorff yn Belfast – Glór na Móna sy’n trefnu gweithgareddau yn yr iaith Wyddeleg; ac R-City Belfast sy’n cynnig help i bobol ifanc y ddinas.

A dyma’r bennod ddiweddara’ yn hanes hynod liwgar Kneecap ers iddyn nhw ryddhau eu sengl gyntaf yn 2017. Maen nhw wedi dod yn bell ac eleni mae ffilm ganddyn nhw wedi derbyn clod a bri hollol haeddiannol.

Does dim rhaid bod yn ffan o hip-hop na rap er mwyn mwynhau’r ffilm Kneecap. Ac mae clywed yr iaith Wyddeleg mor amrwd a sionclud ar y sgrîn yn wledd i’r glust.

Cawn hanes hogiau drygionus Belfast sy’n byw yng ngogledd yr Iwerddon – nid Gogledd Iwerddon, sylwer – ac yn cychwyn band hip-hop ar hap a damwain.

Yn y ffilm, mae’r band yn copio fflac am roi enw drwg i siaradwyr yr iaith Wyddelig am eu bod yn rhegi a thrafod rhyw a chyffuria yn eu caneuon.

Canu am realiti eu bywydau ifanc maen nhw, wrth gwrs, a tydi caneuon fel ‘Gael-Gigolos’ ddim gwahanol i ganu serch Dafydd ap Gwilym, bardd oedd wrthi yn canu am bethau tebyg yn y 1350au…

Yn y ffilm, mae un o ganeuon Kneecap yn cael ei gwahardd rhag cael ei chwarae ar y radio, ac mae eu poblogrwydd yn tyfu o hynny, wrth gwrs… Ac maen nhw’n mynd yn eu blaenau i flasu poblogrwydd rhyfeddol, ac yn gwneud yr hyn na fedar yr holl Gomisiynwyr a Mentrau Iaith yn y byd i gyd yn grwn ei wneud – maen nhw yn gwneud iaith leiafrifol yn COOL!

Ac i feddwl mai sgamps o’r strydoedd yw’r Kneecapwyr, mae’r tri hynod ddigri’ yn actorion rhyfeddol o dda.

Mae eu ffilm wedi ei henwebu am lond sach o wobrau mewn sawl gwlad a Kneecap fydd yn cynrychioli’r Gwyddelod yn y ras am yr Oscar yn y categori ‘Ffilm Ryngwladol Orau’.

Dyma fand a ffilm sydd wedi rhoi’r Wyddeleg ar y map, ac sy’n profi – sylwer S4C – fod pobol o dramor yn fwy na pharod i lowcio ffilm gydag is-deitlau arni.

Mae digonedd yn Kneecap i wneud i chi feddwl a chwerthin… a sawl llinell gofiadwy megis:

“Every word of Irish spoken is a bullet fired for Irish freedom.”

Mae Kneecap ar gael i’w gwylio ar wasanaeth ffrydio Amazon Prime