Rhian Cadwaladr sy’n rhoi cyngor i ddynes sydd wedi darganfod cyfrinach am deulu ei gŵr ar ôl dadansoddi ei DNA, ac sydd mewn cyfyng gyngor am rannu’r wybodaeth efo fo…

 

Annwyl Rhian,

Mae gen i ddiddordeb mawr mewn hel achau ac rwy’n perthyn i wefan hel achau ac wedi cael adnabod fy DNA. Roeddwn i’n falch o ddarganfod mod i’n 100% Cymraes! Does gan fy ngŵr ddim diddordeb ond wnes i ei berswadio i adael i mi yrru ei DNA o hefyd. Mae’r canlyniad newydd gyrraedd ac mae’n dipyn o sioc. Mae o yn 70% Cymro a 30% Sais  – ond nid dyna’r sioc. Tra bod ambell aelod rydan ni’n nabod ar ochr ei fam wedi dod fyny fel ’matches’ iddo fo does neb ryda ni’n ’nabod ar ochr ei dad. Dw i’n gwybod fod ganddo gyfnither a hefyd gefndryd pell sy’n aelodau o’r wefan ond tydyn nhw ddim yn ’match’ ac mae yna enw diarth wedi dod fyny fel perthynas agos – cefnder neu gyfyrder. Mae hyn oll yn awgrymu yn gryf nad ei dad o ydi ei dad iawn. Mi gollodd ei dad rai blynyddoedd yn ôl ac roedd o’n meddwl y byd ohono. Mae ei fam dal yn fyw ac yn 81 oed. Dw i mewn cyfyng gyngor rŵan – ydw i’n dweud hyn i gyd wrtho fo?

 

Mae cael dadansoddi eich DNA at ddibenion hel achau a darganfod tras wedi dod yn boblogaidd iawn yn y blynyddoedd diwethaf gyda degau o filoedd o bobl dros y byd wedi gyrru samplau o’u DNA i wefannau hel achau ac, yn ôl un erthygl ar wefan y BBC, mae hyn yn cynnwys un o bob 20 person yng ngwledydd Prydain. Mae rhai yn gwneud oherwydd chwilfrydedd i weld os ydyn nhw’n perthyn i rywun diddorol neu enwog; eraill eisio gwybod hanes eu teulu; a rhai eisiau darganfod pwy ydyn nhw.

Dwi fy hun yn hel achau ers blynyddoedd ac, fel chithau, yn 100% Cymraeg – gogledd Cymru i fod yn fanwl gywir! Rhaid cyfadda’ mod i wedi teimlo cymysgedd o falchder a’r mymryn lleia’ o siom pan ges i’r canlyniad – ro’n i wedi hanner gobeithio fod gen i ryw waed egsotig, diddorol yn rhywle! Ond tydi cael y prawf yma ddim yn rhywbeth i’w wneud ar chwarae bach achos, fel yr ydach chi wedi darganfod, mae’n gallu datgelu cyfrinachau ac mae amryw wedi cael sioc fawr. O ran fy nheulu i – ar ôl gweld fod gen i drydedd gyfnither yn America a gwneud ychydig o waith ditectif, mi wnes i ddarganfod fod hen fodryb i mi, oedd wedi mudo i America ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf, wedi cael plentyn siawns yn Chicago yn 1913 a neb yn y teulu yn gwybod dim. Gan fod fy modryb, ei gŵr a’i phlant wedi marw ers blynyddoedd ni chwalwyd bywyd neb o glywed hyn, yn wir roedd fy nghaifn (gair dwi newydd ddysgu sy’n golygu trydydd cefnder/cyfnither!) o America wrth ei bodd o ddarganfod fod ganddi waed Cymreig ac o weld lluniau o’i hen nain a’i theulu.

Mi fyddai datgelu eich cyfrinach wrth eich gŵr yn cael llawer mwy o effaith emosiynol  arno fo a’i deulu. Y cwestiwn cyntaf i ofyn i chi eich hun ydi – pa fantais fyddai iddo wybod y gwir? Roedd ganddo berthynas dda gyda’i dad, medda chi. Petai o’n gwybod nad y fo oedd ei dad biolegol, a fyddai hynny yn gwneud iddo edrych ar ei holl hanes yn wahanol? Ella eich bod chi’n meddwl, gan fod ei fam dal yn fyw, ond mewn tipyn o oed, mai rŵan fyddai’r amser i fedru gofyn iddi am y gwir. Ond mi fyddai gwneud hyn yn siŵr o fod yn andros o sioc iddi.

Yr ail gwestiwn i ofyn i chi eich hun ydi – beth petai hi’n gwadu’r cwbl ac yn dweud fod y canlyniad DNA yn anghywir, a’ch gŵr wedyn yn teimlo colled a rhwystredigaeth nad ydi o’n gwybod pwy oedd ei dad ac ella na chaiff fyth wybod? Y trydydd cwestiwn i chi ofyn ydi – ydach chi’n siŵr eich bod chi’n iawn yn eich damcaniaeth? Mae’r ffordd o fesur DNA yn hynod gymhleth. Er enghraifft, gallwch fod yn rhannu rhyw 500 centimorgan o DNA gydag un gyfnither a 1,000 centimorgan efo cyfnither arall.

Os nad oedd eich tad-yng-nghyfraith yn gwybod nad oedd yn dad biolegol i’ch gŵr, a bod eich mam-yng-nghyfraith eisiau i’ch gŵr wybod, yna gallai hi fod wedi dweud wrtho pan fu farw ei ’dad’. Ond ni wnaeth, felly mae’n amlwg nad ydi hi am i’r gyfrinach gael ei datgelu. Mae yna bosibilrwydd hefyd wrth gwrs nad ydi hi yn gwybod y gwir!

O chwilio ar y We mi ddois i ar draws wahanol ymchwil yn edrych ar faint o blant sydd wedi cael eu magu yn ddiarwybod gan ddynion nad oedd yn dadau biolegol iddyn nhw, a’r canlyniad oedd nifer sylweddol, gymaint ag un ymhob 50, yn ôl y rhaglen deledu DNA Family Secrets. Y tebygolrwydd felly ydi ein bod ni i gyd yn adnabod rhywun yn y sefyllfa yma.

Eich penderfyniad chi ydi o yn y pen draw, ond rhaid i mi gyfaddef mai cadw’r caead ar y bocs faswn i – er y baswn i jest â thorri fy mol eisiau gwybod y gwir!