Mi fydd yr wythnos yma yn cael ei hystyried yn un anferth o ran gwleidyddiaeth, trwy’r byd oherwydd Trump, ond hefyd yng Nghymru.

Wrth i fi sgrifennu, mae tynged Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru, newydd gael ei setlo a’r anorfod wedi digwydd.

Anorfod ers i’r datgeliadau cynta’ gael eu gwneud am dderbyn arian llwgr (dewiswch chi’r ystyr) ac iddo yntau hyd yn oed gydnabod problem.