Yn ôl yn niwloedd amser a finnau’n ohebydd gwleidyddol ifanc yn San Steffan, mae gen i gof fod plaid yr SDP a’i harweinydd o dras Gymreig, David Owen (pawb dan 60 oed i gwglo) yn cynnig cyfuno’r system drethi a’r system fudd-daliadau.
Mi fyddai hynny wedi osgoi trafferthion Keir Starmer a Rachel Reeves tros dorri’r taliadau tanwydd i bob pensiynwr sydd heb fod ar gredyd pensiwn. Ac, efallai y byddai’n gweithio’n well heddiw nag y byddai wedi gwneud yn y 1980au.