Bedair blynedd wedi dechrau’r cyfyngiadau mawr cynta’ tros Covid a naw mis wedi dechrau’r ymchwiliad Prydeinig i’r pandemig, mae un o’r gwersi pwysica’ fel petai hi wedi cael ei hanghofio eisoes.

Am y rhesymau gwaetha’ posib – marwolaeth degau o filoedd o bobol oedrannus – mi lwyddodd yr afiechyd i daflu goleuni ar un o broblemau mwya’r Gwasanaeth Iechyd… y gwasanaethau gofal. Am gyfnod, roedd pawb yn sôn am bwysigrwydd y maes ac yn canmol y gweithwyr.