Welsoch chi’r stori am Undeb Rygbi Georgia yn gwadd Cymru draw yno am gêm?
Daw’r cynnig wedi i Gymru “gipio” y Llwy Bren yn y Chwe Gwlad eleni, ac mae’r cefndir yn ddifyr.
Tra bo’r Cymry wedi colli eu pum gêm yn y brif bencampwriaeth i wledydd Hemisffer y Gogledd, roedd Georgia wrthi yn rhoi sgwrfa i bawb yn yr ail haen, gan gipio’r hyn sy’n cael ei alw yn Bencampwriaeth Rygbi Ewrop am y seithfed flwyddyn yn olynol.
Felly does dim dwywaith mai Georgia yw’r tîm gorau yn Ewrop, tu allan i’r Chwe Gwlad.
Ac yn anffodus, eleni, Cymru oedd tîm sala’r gystadleuaeth honno.
Yn y gorffennol bu rhai fel cyn-gapten Cymru, Sam Warburton, yn awgrymu bod Georgia yn haeddu chwarae gêm yn erbyn tîm sala’r Chwe Gwlad, a chael y cyfle am ddyrchafiad i’r brif haen.
O golli gêm o’r fath, fe fyddai’r glec ariannol i Gymru yn enbyd. Yr amcan ydy bod un gêm Chwe Gwlad yng Nghaerdydd werth £10 miliwn i’r Undeb Rygbi, a dwbwl hynny i westai, bariau a busnesau’r brifddinas.
Ac er i ni guro Georgia yn gymharol hawdd, 43-19, yng Nghwpan Rygbi’r Byd y llynedd, mae tîm Cymru ers hynny wedi gwanio yn arw wrth i sêr fel Dan Biggar a George North roi’r ffidil yn y to.
Felly, os ydach chi yn meddwl bod cefnogwyr y tîm pêl-droed wedi bod yn dodwy planciau wrth orfod wynebu’r Ffindir a Gwlad Pwyl yn y gemau ail-gyfle, dychmygwch faint o ddodwy fyddai’r cefnogwyr rygbi yn ei wneud, tasa hi’n Cymru v Georgia am le ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad…
Ac o’r poenus i’r pleserus.
Mae cân newydd Georgia Ruth yn sawl math o H – hyfryd, hypnotig, hiraethus, hanfarwol…
Fel y dywedodd y DJ addfwyn John-Paul Davies ar Radio Wales ddechrau’r wythnos, “Georgia yw’r gorau o Geredigion”.
Ac mae gan Elin Wyn Owen gyfweliad difyr gyda’r delynores o Aberystwyth yn y Babell Roc ar dudalen 28 yr wythnos hon, yn trafod y sengl newydd, ei halbwm ddwbl newydd a’r nofel sydd ganddi ar y gorwel. Dynes brysur.
Un prysur hefyd yw Richard Chitty, y dyn sydd wedi bod yn dylunio cylchgrawn Golwg am y naw mis diwethaf, gan lenwi’r bwlch yn wych yn ystod cyfnod mamolaeth.
Ar ben ei waith dylunio, mae Rich hefyd yn rhedeg label recordiau Bubblewrap, ac yn rhyddhau caneuon gan rai o brif artistiaid Cymru, megis Georgia Ruth, HMS Morris a Carwyn Ellis.
Teg dweud ei fod yn un o arwyr tawel y Sîn Roc Gymraeg.
Ac wrth iddo ffarwelio â Golwg yr wythnos hon, hoffwn ddiolch iddo am ei waith dylunio cyson wych, a dymuno pob lwc iddo.