Mae’r Prif Weinidog newydd wedi penodi Cabinet Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys naw menyw a phum dyn.

Bu Vaughan Gething yn gwneud cryn dipyn o ail-drefnu, ac mae Jayne Bryant wedi ei phenodi i bortffolio gwbl newydd – Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar.

A bwriad y rôl yw “sicrhau ein bod yn cyflawni yn ystod 1,000 diwrnod cyntaf bywyd pob plentyn,” meddai Mr Gething.

Er yn gabinet newydd, mae ambell wyneb cyfarwydd yn dychwelyd.