Mae Y Dewis yn waith newydd gan Gwyn Emberton, y dawnsiwr o Drefaldwyn, wedi’i ysbrydoli gan hanesion pobol ifanc ledled Cymru heddiw.

Dyma waith sy’n gyfuniad o stori a gêm sinematig, yn cynnwys ffilm a gafodd ei saethu ar safle hen waith brics Porth Wen yn Ynys Môn. Ar y ffilm mae pedwar cymeriad, sef Mack (Jack Thomson), Ez (Elias Khanamidi), Indy (Amber Howells) a Ieua (Alys Davies), yn trafod eu profiadau, eu gobeithion a’u dyheadau.