Eleni mae nifer o Aelwydydd ac Adrannau wedi cael eu sefydlu, a rhai ohonyn nhw ar fin mynd i Feifod i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd…

 

“Clocsio’n dechrau dod yn normal”

Y ddau sy’n gyfrifol am sefydlu Aelwyd Madryn ym Mhen Llŷn yw’r awdur a’r cyflwynydd Anni Llŷn a’i gŵr, y clocsiwr adnabyddus Tudur Phillips. Mae’r Aelwyd wedi bod wrthi’n cystadlu ar y dawnsio gwerin yn yr Urdd am y tro cyntaf eleni ac wedi cael llwyddiant.

Yn fras, ‘Aelwyd’ yn yr Urdd yw clwb iau neu gynradd, ac ‘Adran’ yw clwb ieuenctid neu uwchradd. Cyfarfod bob hyn a hyn fydd Aelwyd Madryn yn hytrach na chynnal sesiynau rheolaidd, gan gynnig hyfforddiant drama a sgetshis i’r plant ynghyd â gwersi clocsio. Fe gynhaliodd yr Aelwyd gyngerdd ar gyfer cangen Merched y Wawr yn Abersoch yn ddiweddar. Fe fydd pedwar clocsiwr unigol, ynghyd â deuawd a thriawd clocsio, yn cystadlu ar ran Aelwyd Madryn yn Eisteddfod yr Urdd.

“Roedd e’n dalcen caled i gael y bois i wneud rhywbeth [gyda’r clocsio], ond yr eiliad maen nhw’n gweld y triciau, ac yn showan off, maen nhw’n joio,” meddai Tudur Phillips, sy’n un o brif hyrwyddwyr crefft draddodiadol clocsio yng Nghymru.

“Mae pawb wedi dechrau clywed mwy am y clocsio yn yr ardal nawr. Yn ddiweddar, mae lot o eisteddfodau bach wedi bod, ac mae lot o’r rhai sy’n clocsio gyda fi wedi bod yn ei wneud e, yn yr [adran] ’Sgen Ti Dalent? a phethau fel yna. Mae clocsio yn dechrau dod yn normal. Hyd yn oed mewn eisteddfod Ysgol Sul sy’n dod lan cyn bo hir, dw i’n credu bod yna gystadleuaeth clocsio, gan fod yna ddigon eisie gwneud.”

Mae e’n gobeithio ffurfio tîm clocsio cymysg – yn blant ac oedolion – i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol y Cymoedd ym mis Awst. “Rhwng rhai o’r oedolion a’r plant dw i’n credu bydd digon gyda ni erbyn y Gen,” meddai Tudur.

Hwb i blant o dair ysgol fach sydd yn cau

Adran newydd gyda’r Urdd yw Adran Dyffryn Aeron yn Felin-fach, ac maen nhwythau yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, ar y gân actol.

Mae’r Adran yn cyfarfod bob yn ail nos Wener yn Neuadd Cilie Aeron, ac mae tua 30 o blant cynradd yn mynychu. “Ailddechrau pethau r’yn ni wedi gwneud,” meddai Sian Tandy, sy’n gyd-arweinydd gyda thair arall, Elin Mair, Alwen Thomas a Catrin Jones Davies. “Cyn Covid fe wnaethon nhw roi cynnig arni, yn amlwg fe wnaethon nhw roi stop go glou. R’yn ni wedi trio ail-gydio ynddi ers mis Medi y llynedd.”

Fe fydd tair ysgol gynradd fach yn yr ardal – Ciliau Parc, Dihewyd a Felin-fach – yn cau ddiwedd y flwyddyn, a’r disgyblion yn cael eu hanfon i ysgol ardal newydd Ysgol Dyffryn Aeron. Mae Sian Tandy, sydd yn gweithio i sefydliad Menter a Busnes, yn credu fod yr Adran yn gyfle iddyn nhw ddod i nabod ei gilydd ac o fudd o ran y trosglwyddo draw i ardal newydd.

Roedd hi’n awyddus i ddechrau’r Adran am ei bod hi’n wastad wedi bod yn aelod o’r Urdd, ac wedi cael cyfleoedd buddiol gydag Adran y Pandy yn Llanarth pan oedd hi’n llawer iau.

“Ac mae Elin, Catrin ac Alwen hefyd yn credu’n gryf bod gwerth i gefnogi a bod yn rhan o sefydliad yr Urdd, felly roedd yn rhywbeth braf i allu ei gynnig i’r plant,” meddai. “Mae e’n grêt gweld shwd gymaint o blant yn troi lan bob pythefnos, ac mae’r rhieni’n gefnogol iawn gyda’r ymarferion ac yn helpu allan lle bod angen.”

Fe fyddan nhw’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau – celf a chrefft, disgo distaw, chwaraeon, gweithdai, gemau, canu a dawnsio. Mi wnaethon nhw benderfynu cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd eleni a rhoi cynnig ar y Gân Actol a’r Parti Unsain yn yr eisteddfod rhanbarth, a chael llwyddiant ar y Gân Actol.

Thema’r gân actol yw ‘Does Unman yn Debyg i Adre’, ac mae’r Adran yn perfformio cyflwyniad yn seiliedig ar ganeuon Edward H, fel ‘Yr Hen Ffordd Gymreig o Fyw’, ‘Cân Jên’, a ‘Mistar Duw’.

“Mae’r plant yn wir yn joio,” meddai Sian Tandy. “Mae e am fam-gu a thad-cu yn ymddeol o’r ffarm a chael cyfle i fynd ar wyliau i Sbaen, ac maen nhw’n dod adre wedi joio, ond yn amlwg does unman yn debyg i adre. Mae’r plant yn joio – lot o ganu, lot o ddawnsio.”

Maen nhw’n “ffodus iawn” fod un o’r arweinyddion, Elin Mair, yn medru chwarae’r piano a hyfforddi’r plant i ganu, ac mae un o rieni’r Adran, Dwynwen Llywelyn o Theatr Felin-fach, wedi gallu helpu â llwyfannu’r gân actol. “Felly mae’n gweithio’n gwd,” meddai Sian.

Adran arall sydd wedi cael ei ail-sefydlu eleni yw Adran Bro Gele yn Abergele, a hynny gan ddau wirfoddolwr ifanc, Lois Green a Siriol Elin. Arferai nain a thaid Lois redeg yr aelwyd dros 20 mlynedd yn ôl. Mae Siriol Elin yn enw cyfarwydd yn yr Urdd am ei bod wedi cystadlu ers blynyddoedd ac wedi cael llwyddiant ar gystadlaethau gerdd dant, canu gwerin a sioe gerdd. Fe gafodd yr Adran, sy’n cyfarfod yng Nghapel Mynydd Seion Abergele ers mis Medi’r llynedd, lwyddiant yn yr Eisteddfod rhanbarth. Maen nhw wedi mynd drwodd i’r Genedlaethol gyda thri pheth – Deuawd Cerdd Dant Blwyddyn 6 ac Iau, Ensemble Lleisiol Blwyddyn 7, 8 a 9, a Grŵp Llefaru Adran Blwyddyn 7 – 9. Ddim yn ddrwg am eu blwyddyn gyntaf.

Rhoi gwersi Cymraeg i’r rhieni – tra bod y plant yn chwarae

Adran newydd sbon yn ardal Bae Colwyn, Llandudno a Chyffordd Llandudno yw Menter Madoc, yn cael ei redeg gan Meirion Owen ac Angharad Harrop, ac mae’r criw yma hefyd yn clocsio.

Fe fydd hyd at 20 o blant mynd i’r sesiynau wythnosol ac fe benderfynodd yr Adran gystadlu yn rownd rhanbarth yr Eisteddfod eleni ar y clocsio a’r dawnsio creadigol. Mae llawer iawn o’r plant yn ddysgwyr ac mae’r Urdd yn falch o ddarpariaeth fel yma i’r plant y tu allan i’r ysgol.

“Dw i’n eithaf newydd i’r ardal,” meddai Meirion Owen, sy’n enedigol o Fangor. “Mae Angharad yn ddawnswraig, ac roedd hi eisio cychwyn clwb clocsio. Mae gen i ddau o blant, ac mae ganddi hi dri o blant, ac ro’n i’n meddwl sut allan ni gychwyn rhywbeth tu allan i’r ysgol a lot o hwyl ynddo fo.”

Nid yw ei blant yn siarad Cymraeg yn reddfol, meddai, am fod ei wraig yn ddi-Gymraeg. “Yr unig ffordd ro’n i’n cael y mab i siarad Cymraeg oedd chwarae gemau efo fo – a dyna o le daeth y syniad. Roedd y ferch yn leicio chwarae gemau hefyd, wrth ei bodd yn smalio bod yn rhywun arall… Dyna ydi’r ysgogiad. Fy swyddogaeth i ydi chwarae gemau gwahanol efo nhw. Mae yna lot o ddysgwyr felly mae siarad yn reddfol yn anodd, ond eu bod nhw’n ymarfer eu Cymraeg.”

Mae enw bachog yr Adran yn deillio o’r chwedl fod y tywysog Madog wedi hwylio i America o Fae Penrhyn. “Y ‘Clwb Cymraeg’ ydi o ar lafar i’r rhan fwya’ o bobol,” meddai Meirion.

Disgyblion Ysgol Gymraeg Bod Alaw ym Mae Colwyn yw rhai o aelodau’r Adran, ond mae’r mwyafrif yn mynychu ysgol ail-iaith Gymraeg. Mae ambell un heb Gymraeg o gwbl, yn newydd-ddyfodiaid i’r ardal o Loegr.

“Maen nhw’n dechrau gofyn yn Gymraeg,” meddai Meirion Owen, “yn dechre holi am y gemau ac egluro’r gemau maen nhw eisio eu chwarae yn Gymraeg. Tra mae’r gemau yma yn cael eu chwarae, er enghraifft, ‘Ffarmwr, Ffarmwr Ga i Groesi’r Cau’, maen nhw’n adrodd geirfa ychydig bach anoddach, ac yn ailadrodd ac ailadrodd.”

Mae criw arall yn yr Adran sy’n hoffi’r clocsio, ac wedi elwa ar wersi gan Tudur Phillips, fel hyfforddwr gwadd. Nawr mae Angharad Harrop yn eu hyfforddi i wneud ychydig o ddawnsfeydd syml a bu’r criw yn dawnsio ar y prom yn Llandudno yn ddiweddar gyda dawnswyr gwerin o Wlad y Basg.

Ond mae Menter Madoc yn mynd un cam ymhellach.

Diolch i diwtor Cymraeg sy’n anfon ei phlant i’r Adran, mae’r rhieni yn cael cynnig gwersi Cymraeg tra bod eu plant yn mwynhau. “Mae hi yn dechre mynd â’r rhieni allan un ochr i ddosbarth arall ac wedyn maen nhw’n cael gwersi Cymraeg anffurfiol,” meddai Meirion Owen. “Mae gennym ni oddeutu 17 i 20 o blant ac, mae’n amrywio, i fyny at ryw chwe oedolyn. Maen nhw yno bob wythnos – awr, awr a hanner, yn trio ymrafael efo’r Gymraeg.”

Am syniad campus. Helpu’r rhieni â’u Cymraeg tra bod y plant yn cael eu trochi yn yr iaith. “Mae hyn yn ffordd wych o drio cwmpasu bob dim,” meddai Meirion. “Mae o’n gweithio.”

  • Fe fydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei gynnal ar Fferm Mathrafal, Meifod rhwng dydd Llun a dydd Sadwrn, 27 Mai – 1 Mehefin