Fel un o gynghorwyr Plaid Cymru yn Sir Gâr, a chadeirydd Pwyllgor Cynllunio’r sir am saith mlynedd tan 2022, rwy’n naturiol yn rhannu dymuniad Cylch yr Iaith i weld y Gymraeg yn ‘parhau’n iaith gymunedol, fyw’ (Llythyr, Golwg 16/05/24). Ond ydyw’r honiad fod y Blaid yn caniatáu ‘datblygiadau anaddas a niweidiol’ yn gywir? Dewch i fi rannu tystiolaeth ar sail profiad personol ac ystadegau ffeithiol.
Deuddeg mlynedd yn ôl roeddwn i fy hun yn ymgyrchu’n frwd yn erbyn y cynllun i godi hyd at 1,000 o dai newydd ar gyrion tre Caerfyrddin. Fel eraill, roeddwn yn ofni y byddai’n bwydo ton o fewnlifiad a fyddai’n boddi’r iaith Gymraeg. Roeddwn yn hollol anghywir. Gyda dwy ystâd fawr wedi eu codi’n barod, mae canlyniad Cyfrifiad 2021 yn dangos fod bron i 45% o drigolion Maes Macsen a Maes Elen yn siarad Cymraeg – sy’n dipyn uwch na chyfartaledd tref Caerfyrddin a gweddill Sir Gâr. Teuluoedd â phlant yw trwch y trigolion. Dyma ddyfodol ein hysgolion a’r iaith Gymraeg.
Pentref tua thair milltir i’r gogledd o Gaerfyrddin sydd wedi gweld twf sylweddol dros y blynyddoedd yw Peniel. Prin fod dwsin o dai yno pan oeddwn yn blentyn yn yr ysgol leol, amser maith yn ôl! Erbyn heddiw, mae bron i 200 o gartrefi. Yn ôl y Cyfrifiad mae hyd at 70% o’r trigolion yn medru’r Gymraeg. Mae’r ysgol cyfrwng Cymraeg yn orlawn, a’r Ysgol Sul yng nghapel Peniel yn ffynnu. Mae tystiolaeth ddiymwad na fu ymestyn tre Caerfyrddin, na thwf pentre Peniel, yn niweidiol i’r iaith Gymraeg – yn wir i’r gwrthwyneb.
Dewch i fi droi at ddatblygiad arfaethedig pentre Porthyrhyd, sydd wedi ysgogi’r drafodaeth yn Golwg. ‘Iaith a Gwaith’ yw blaenoriaeth Plaid Cymru ers cymryd at arweinyddiaeth Cyngor Sir Gâr yn 2015. Aethom ati i godi 900 o dai cyngor newydd, a darparu miloedd o dai fforddiadwy, gan roi’r flaenoriaeth i bobl leol. Ond mae’r galw’n dal i fod yn fawr. Tra’n deall yn iawn bod maint y datblygiad yn achosi pryder i nifer o bobl Porthyrhyd ac eraill sy’n poeni am yr effaith ar y Gymraeg, rhaid cofio y bydd 29 allan o’r 42 o dai a fflatiau yn rhai fforddiadwy. Bydd cyfle i unigolion a theuluoedd ifanc Sir Gâr i gael eu cartref cyntaf. Rwy’n hyderus y bydd y datblygiad, ymhen amser, yn hwb i fywyd y gymuned ac i ddyfodol yr iaith Cymraeg ym Mhorthyrhyd.
Y Cynghorydd Alun Lenny
Caerfyrddin