Roedd hi’n ‘Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl’ yn ddiweddar, gyda sylw helaeth i’r achos dros y cyfryngau cymdeithasol. Cyn mynd ati i rannu fy mhrofiadau a barn bersonol gyda chi, fel ydw i gyda phob colofn… gadewch i mi roi ‘disclaimer’ bach i chwi ddarllenwr cyn mynd ymlaen: Dydw i ddim yn feddyg proffesiynol ac mae pob peth rwyf ar fin sôn amdano yn deillio o fy mhrofiad personol yn unig, ac os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu bryderon, siaradwch â‘ch meddyg teulu...

Rwy’n teimlo’n broffesiynol iawn yn sgwennu’r uchod!

Ers 2020, rydw i wedi bod ar y feddyginiaeth Sertraline, ar ôl cael diagnosis o bryder cronig y flwyddyn honno. Fe es i ar y feddyginiaeth, ac fe wnaeth o newid fy mywyd mewn ffordd hynod o bositif. Roeddwn i gyda chymaint o gywilydd i ddechrau, ond wrth weld sut wnaeth y feddyginiaeth helpu fi mewn cymaint o ffyrdd, fe aeth y cywilydd, ac fe ddaeth rhyddhad yn lle. Achos fe wnaeth y feddyginiaeth roi digon o bellter oddi wrth fy symptomau fwya dominyddol fel fy mod i’n gallu dechrau gweithio trwy bethau gyda therapydd ar yr un pryd. Roeddwn i hefyd yn poeni efallai baswn i ddim mor greadigol, ond mewn gwirionedd fe wnaeth o helpu fi i fod yn fwy creadigol.

Dros y blynyddoedd diwethaf, rydw i wedi gweithio trwy lawer iawn o’r pethau mewnol oedd yn achosi fy mhryder, a hefyd dysgu sut i weithio nid yn erbyn, ond gyda fy symptomau. Hefyd gwybod y stwff mae pawb yn gwybod sy’n bwysig: ddim gormod o yfed, siwgr, coffi… a hefyd cadw’n weithgar ond hefyd gwybod pryd mae angen orffwys.

Felly, tua mis yn ôl, penderfynais roi tro ar beidio cymryd y feddyginiaeth. Mae gen i hyder nawr yn fy ngallu i edrych ar ôl fy hunain yn feddyliol a chorfforol, gyda phartner cefnogol, a sefyllfa gartrefol sefydlog iawn. Ges i sgwrs â fy meddyg ac fe wnaeth e rhoi fi ar yr amserlen i ddod oddi ar y feddyginiaeth. A wel… am Laff!

Nawr, be sy’n grêt yw fy mod i’n gallu siarad am hyn erbyn hyn gan fy mod i bron ar ddiwedd fy siwrne, mae’r sgîl-effeithiau yn fach iawn. Roedd y pythefnos cyntaf heb feddyginiaeth yn… siwrne! Un diwrnod, roeddwn i’n teimlo fel roedd yna gwmwl dwys yn eistedd yn stond ac yn ymestyn o gefn fy mhen a thrwodd i fy llygaid. Fel person sydd ddim yn gwisgo spectol, roeddwn i’n gorfod croesi fy llygaid eitha lot a symud fy mhen fel rhywun dan ddŵr. Ar ddiwrnodau eraill roeddwn i’n teimlo mor ar ben y byd roeddwn i’n blastio cerddoriaeth bop o fy arddegau yn fy nghlustiau a bron yn dawnsio wrth gerdded i’r gwaith. Diwrnodau eraill roeddwn i gyda cholled cof tymor byr, ac roedd sgwrsio yn eithaf anodd achos roeddwn i’n anghofio beth roeddwn i neu’r person arall yn siarad ambwyti. Un noson, wnaeth fy nghariad ddweud yn hollol ddiniwed ‘o mae dy anadl yr arogli o garlleg’ (rhywbeth eitha cyffredin i fi, un o fy llysenwau ganddi i fi yw Garlic Princess!), ac fe wnes i grio am hanner awr. Felly allwch ddweud i’r siwrne fod yn antur!

Beth sydd wedi cadw fi fynd yw hiwmor am yr holl beth… chwerthin am y symptomau amrywiol gyda fy ffrindiau, fy nheulu, fy mhartner. Cofio fod e ddim am byth, mae’n rhan o’r broses. Cofiwch fod hyn y bosibl o ganlyniad i’r holl waith rydw i wedi gwneud ar fy hun dros y blynyddoedd diwethaf. A hefyd cofiwch, rydw i’n gallu mynd yn ôl ar y feddyginiaeth unrhyw bryd. Mae iechyd meddwl yn rhywbeth mor bersonol a chymhleth, mond chi sy’n gallu mynd ar y siwrne o weithio allan beth sydd am weithio i chi fel unigolyn. Ond hefyd cofiwch y bobl yn eich bywyd chi sydd yn gallu cefnogi a bod yna, heb feirniadaeth, i ddal stwff lawr. Dydych chi byth yn gyfan gwbwl ar eich pen eich hun.