Mae ffeinal Cwpan Merched Cymru yn cael ei chwarae’r penwythnos hwn, a dim ond Wrecsam all atal Caerdydd rhag ei hennill hi eto am y drydedd flwyddyn yn olynol..

Amser te ddydd Sul fe fydd Caerdydd a Wrecsam yn mynd benben â’i gilydd yn rownd derfynol Cwpan Cymru yng Nghasnewydd.

Yr Adar Gleision yw deiliaid presennol cwpan y merched, sydd bellach wedi bod yn eu meddiant ers dwy flynedd, gan iddynt drechu Llansawel o bedair gôl i ddim yn y rownd derfynol ddeuddeg mis yn ôl, ar ôl cael y gorau ar fyfyrwyr Prifysgol Met Caerdydd, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ar ddiwedd y tymor blaenorol. Dim ond dau glwb sydd erioed wedi llwyddo i ennill Cwpan Menywod Cymru dair gwaith yn olynol, ond yn sgil goruchafiaeth gyffredinol ddiweddar tîm Iain Darbyshire, mae’n bosibl iawn y bydd Caerdydd yn ymuno â’r garfan ddethol iawn honno o fynych-fuddugwyr dros y penwythnos. Ochr yn ochr â’u llwyddiant yn y cwpan cenedlaethol y llynedd, cafodd merched y brifddinas hefyd eu coroni’n bencampwyr diguro Prif Adran Genero ar gyfer 2022-23 ac mae eu rhagoriaeth wedi parhau’r tymor hwn, gan eu bod eisoes wedi ailennill y gynghrair a hefyd wedi sicrhau Tlws Adran Genero am y tro cyntaf yn eu hanes (drwy roi crasfa o bum gôl i un i Abertawe yn y rownd derfynol). Ar ôl cipio’r dwbl y flwyddyn ddiwethaf felly, mae trebl domestig cyntaf bellach o fewn eu gafael.

Wrecsam yw’r clwb gogleddol cyntaf i gyrraedd rownd derfynol Cwpan Merched Cymru ers Llandudno yn 2016 a beth bynnag fydd y canlyniad brynhawn Sul yma, mae rhediad y Dreigiau Cochion yn y gystadleuaeth y tymor hwn yn adlewyrchiad pellach o’u cynnydd sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Cafodd NEWI Wrexham Ladies – oedd ddim yn rhan o brif glwb pêl-droed y dref ar y pryd – grasfa yn rownd derfynol Cwpan Cymru 2008. Ond dyma’r tro cyntaf i dîm merched presennol Wrecsam fynd mor bell, yn y chwe blynedd ers ei ffurfio. Colli i Aberystwyth, yn rownd yr wyth olaf, oedd hanes tîm Steve Dale yn 2022-23, ond ar ôl ennill dyrchafiad o Adran y Gogledd – a chynnig cytundebau rhan amser i ddeg chwaraewr dros yr haf – gorffennodd Wrecsam yn drydydd yn yr haen uchaf y tymor hwn. Er hynny, y tîm o’r gogledd ddwyrain oedd yr isaf o’r clybiau lled-broffesiynol yn y tabl terfynol eleni, gydag 17 pwynt yn llai na’r pencampwyr o’r brifddinas.

 

Y ffordd i’r ffeinal

Mae Caerdydd a Wrecsam wedi mwynhau siwrneiau didrafferth iawn i’r rownd derfynol. Yn wir, dim ond un gôl mae’r timau wedi ei hildio rhyngddynt yn yr wyth gêm flaenorol y maent wedi eu chwarae (a’u hennill) yng nghystadleuaeth Cwpan Cymru 2023-24. Sgoriodd Ava Suckley hat-tric ddwbl wrth i Wrecsam drechu Pwllheli 13-0 yn y rownd gyntaf, yn ôl ym mis Hydref. Ond yn anhygoel, llwyddodd Caerdydd i ragori ar y canlyniad hwnnw, drwy daro 14 gôl yn erbyn Llanelli ar yr un prynhawn.

Ennill yn hawdd yn erbyn tîm o’r ail haen oedd hanes yr Adar Gleision yn yr ail rownd hefyd. Ond dim ond pum gôl ildiodd pêl-droedwyr benywaidd Prifysgol Abertawe yn Stadiwm Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd ar 12 Tachwedd. Gant ac ugain o filltiroedd i’r gogledd, bu’n rhaid i’r dorf o 539 oedd wedi ymgynnull ar y Graig, yn Rhosymedre, ddisgwyl yn amyneddgar iawn i weld Merched Wrecsam yn datgloi amddiffyn Llandudno: roedd yr ornest honno ar fin cael ei setlo ar giciau o’r smotyn, pan rwydodd Katie Sharp unig gôl y gêm, yn ddwfn i mewn i’r amser am anafiadau.

Wyth mis wedi iddynt drechu Llansawel i sicrhau dyrchafiad i Brif Adran Genero, cafodd y Dreigiau Cochion y gorau ar y clwb o ardal Castell Nedd unwaith eto yn rownd gogynderfynol Cwpan Cymru: 2-0 oedd y sgôr terfynol ar y Graig ym mis Rhagfyr, gyda Rosie Hughes a Libby Mackenzie yn rhwydo i’r tîm cartref. Hawliodd Merched Caerdydd eu lle yn y pedwar olaf drwy ennill 3-0 ym Mhontypridd.

Gyda dau dîm deheuol a dau dîm o’r gogledd wedi goroesi’r rowndiau blaenorol, sicrhaodd y drefn y daeth yr enwau allan o’r het mai rowndiau terfynol rhanbarthol oedd y ddwy ornest gynderfynol eleni, i bob pwrpas. Chwaraewyd y gemau hynny ar brynhawn Sul, 3 Mawrth, pan aeth Caerdydd ac Abertawe benben â’i gilydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ychydig oriau cyn i Wrecsam herio’r Seintiau Newydd yn y Fflint. Cafodd yr Adar Gleision y dechrau delfrydol ym Mharc Bryntirion, pan roddodd Mikayla Cook hwy ar y blaen wedi dim ond naw munud ac er i’r Elyrch daro yn ôl, sicrhaodd goliau hwyr gan Molly Kehoe a Megan Bowen y fuddugoliaeth i ddeiliaid y gwpan. Dim ond un gôl oedd ynddi yn y frwydr ogleddol ar Gae-y-Castell ac yn anochel, Rosie Hughes sgoriodd honno, ychydig cyn hanner amser.

Caerdydd yn ffefrynnau clir

Mae Caerdydd a Wrecsam eisoes wedi cyfarfod pum gwaith y tymor hwn, gyda’r Adar Gleision yn ennill yn gyfforddus ar bob achlysur (gan sgorio pedair gôl y gêm, ar gyfartaledd). Wedi iddynt orchfygu tîm Steve Dale 3-0 yn y ddwy gêm gynghrair gyntaf – ar y Graig, ym mis Hydref a ger bron torf o 1,312 yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ym mis Ionawr – rhwydodd Eliza Collie hat-tric, mewn buddugoliaeth swmpus 6-1 yn y gogledd ddwyrain ar 17 Mawrth. Dair wythnos yn ddiweddarach, dioddefodd Wrecsam grasfa arall ar ddiwrnod olaf tymor Prif Adran Genero 2023-24, pan sgoriodd y pencampwyr bump yn y glaw yn y brifddinas (cyn i Cara Jones hawlio gôl gysur i’r ymwelwyr, o 30 llath). Ochr yn ochr â’r gyfres o ganlyniadau unochrog hyn yn y gynghrair, cadarnhawyd goruchafiaeth tîm Iain Darbyshire dros y Dreigiau Cochion ymhellach yn rownd gogynderfynol Tlws Adran Genero eleni: 3-1 i Gaerdydd oedd sgôr.

Heb os felly, yr Adar Gleision yw’r ffefrynnau clir i godi Cwpan Cymru brynhawn Sul. Maen nhw wedi sgorio 132 o weithiau mewn 40 gêm gynghrair dros y ddau dymor diwethaf ac mewn tîm sy’n llawn goliau, Eliza Collie yw’r chwaraewr sy’n canfod y rhwyd amlaf. Wedi iddi agor y sgorio yn rownd derfynol Cwpan Cymru y llynedd – gyda’r olaf o’i 13 gôl yn nhymor 2022-23 – y ferch 19 oed oedd saethwraig fwyaf llwyddiannus Prif Adran Genero y gaeaf hwn. Roedd ei chyfanswm o 17 gôl yn y gynghrair yn 2023-24 yn cynnwys dwy hat-tric ac ar ben hynny, mae hi hefyd wedi rhwydo pum gwaith yn ystod rhediad diweddaraf ei chlwb yn y gystadleuaeth gwpan genedlaethol. Bydd amddiffynwyr Wrecsam eisoes yn ymwybodol iawn o fygythiad Eliza Collie, gan ei bod hi wedi sgorio saith gôl yn eu herbyn yn barod y tymor hwn.

Yr ymosodwraig ifanc o’r Caribî

Aelod arall o garfan Iain Darbyshire sydd wedi bod yn ddraenen gyson yn ystlys y Dreigiau Cochion dros y misoedd diwethaf yw Molly Kehoe, gan iddi gyfrannu’n flaenllaw at bob un o fuddugoliaethau Caerdydd yn Rhosymedre yn ystod 2023-24: wedi iddi rwydo ddwywaith yno ym mis Hydref, sgoriodd un gôl a chreu un arall (i Eliza Collie) yn y gêm yn Nhlws Adran Genero, cyn hawlio ei phedwaredd gôl ar y Graig ym mis Mawrth. Yr ymosodwraig ifanc o’r Caribî oedd hefyd yn gyfrifol am ail gôl yr Adar Gleision yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru eleni a rhwydodd unwaith eto, wrth iddynt ennill tlws y gynghrair, dair wythnos yn ôl.

Mae medrusrwydd sylweddol Rosie Hughes o flaen gôl eisoes yn hysbys, yn sgil ei gorchestion wrth i Wrecsam sicrhau dyrchafiad o’r ail haen y tymor diwethaf. Sgoriodd yr ymosodrwaig o Fae Colwyn 41 o weithiau yn ystod tymor 2022-23 – gan rwydo o leiaf tair gôl mewn gêm ar wyth gwahanol achlysur – ac mae hi wedi parhau i fod yn doreithiog fel chwaraewraig lled-broffesiynol hefyd. Yn wir, dim ond Eliza Collie lwyddodd i gofnodi mwy o goliau na hi ym Mhrif Adran Genero y tymor hwn ac ar yr un pryd, mae rhif naw Wrecsam wedi rhwydo tair gôl yng Nghwpan Cymru 2023-24 hefyd. Yn amlwg felly, hi fydd bygythiad mwyaf y Dreigiau Cochion brynhawn Sul. Ond er gwaethaf ei champau sgorio parhaus – megis ei phum gôl mewn awr yn erbyn y Barri yn ôl yn yr hydref – mae’n arwyddocaol mai dim ond unwaith mae Rosie Hughes wedi rhwydo mewn pedair gêm yn erbyn Caerdydd y tymor hwn (a chic o’r smotyn oedd y gôl honno).

Y gêm yn tyfu

Adlewyrchir y modd y mae poblogrwydd pêl-droed merched domestig wedi parhau i dyfu yng Nghymru dros y deuddeg mis diwethaf, gan y ffaith bod torf o 1,088 wedi gwylio rownd derfynol ddiweddar Tlws Adran Genero. Roedd y cynulliad hwnnw dros ddwywaith yn fwy na’r 515 o bobl welodd gapten Caerdydd, Siobhan Walsh, yn codi Cwpan Cymru ar Barc Penydarren ym Merthyr y llynedd, a dyma obeithio (yn eithaf ffyddiog) felly, y bydd cynulleidfa bedwar ffigwr arall yn bresennol yng Nghasnewydd brynhawn Sul yma.

Ffeinal Cwpan Merched Cymru yn fyw ar S4C bnawn Sul, gyda’r gic gyntaf am 5.10