Dw i wedi bod yn ddilynwr brwd o gerddoriaeth gyfoes Gymraeg ers blynyddoedd maith. Yn wir, roeddwn i’n olygydd cylchgrawn cerddoriaeth am ddeng mlynedd. Mae rhai o atgofion melysaf fy arddegau a fy ugeiniau yn perthyn i gigs mewn ystafelloedd llychlyd a chaeau gwlyb. Dw i ddim yn gallu mynd mor aml erbyn hyn ond dyna ni, mae bywyd yn mynd yn y ffordd yn tydi. Dw i dal yn ystyried fy hun yn ffan.