Ar ddiwedd blwyddyn mae’n beth naturiol i edrych yn ôl. I bwyso a mesur yr hyn a wnaethom ers mis Ionawr: gyda’r teulu, gyda’n ffrindiau, neu hyd yn oed wrth ein gwaith.

Ac edrych yn ôl ar yr hyn a ddigwyddodd ar hyd a lled y byd. Ond, wrth gwrs, nid oes llawer o lawenydd i’w ganfod wrth wneud hynny ar ddiwedd 2024.

Mae’n demtasiwn, felly, i fynd yn ôl ymhellach na mis Ionawr. I feddwl am yr amser a fu. Megis diwedd y saithdegau.