Un o’r pethau rhyfedd am yr helynt tros benderfyniad Llywodraeth San Steffan i orfodi ffermwyr i dalu treth etifeddu ydi’r diffyg helynt ynghylch rhan arall y cyhoeddiad – y penderfyniad i haneru’r rhyddhad ar fusnesau teulu a busnesu bach.
Ar ôl 2026, yn union fel busnesau amaethyddol, mi fydd rhaid iddyn nhw dalu 20% ar asedau tros £1 miliwn (efo’r lwfansau ychwanegol i gyd, wrth gwrs). Yn union yr un peth â ffermydd.