Weithiau mae yna stori sy’n codi sy’n sticio’n fy ngwddw, ac felly deimlais i wrth ddarllen am brofiad diweddar, a phrofiadau cynt, un o newyddiadurwyr y BBC, Sean Dilley. Mae Dilley yn ddall ers yn 14 oed a chanddo gi cymorth ers 25 mlynedd. Mae’n dweud bod hyd yn oed gadael y tŷ’n gallu bod yn brofiad anodd a blinedig iddo. Ond mae’r cŵn er hynny wedi ei gynorthwyo i wneud hynny a chael rhyw fath o fywyd normal ac annibynnol.