Mae hi’n llithro i mewn drwy’r drws, gan adael y stryd a’r byd a’r tywydd y tu ôl iddi. Yma, mae’r sain yn wahanol. Yn gynhesach. Rhywbeth i’w wneud efo’r ffordd mae’r papur yn effeithio ar y tonnau sain, mae’n siŵr, ond tydy Helen ddim wir yn credu esboniad mor rhesymegol. Mae hi’n hanner-coelio fod siopau llyfrau yn barchus dawel am fod y llyfrau’n gwrando, yn barod i amsugno geiriau newydd i drwch eu tudalennau.
gan
Manon Steffan Ros