Beth yw carisma? Dwi wedi bod yn ystyried y cwestiwn hwn wrth ddarllen cyfrol gan yr awdur toreithiog D Ben Rees am arweinydd undeb y glowyr ac Aelod Seneddol dros y Rhondda, Mabon (1842-1922). Rydw i yn ennill fy mara menyn yn undebwr ac felly wnes i ddarllen y gyfrol sy’n ymwneud ȃ gyrfa arweinydd undeb ac yn cynnwys trafodaeth am hanes undebaeth yng Nghymru, a hynny gyda chryn ddiddordeb.