Dw i’n cytuno i raddau helaeth efo sylwadau’r ‘Hogyn o Rachub’ yn ei golofn ‘Dydy “dysgwr” ddim yn air sarhaus’ (Golwg 12/09/24) a Rob Evans yn ei lythyr mewn ymateb (Golwg 10/10/24). Siŵr o fod does dim cywilydd o gwbl yn bod yn ‘ddysgwr Cymraeg’.