Mae adeiladu awyrennau yn ddrud, ond mae hedfan gyda chwmnïau fel Ryanair ac EasyJet yn rhad oherwydd bod modd ailddefnyddio awyrennau drosodd a throsodd. Mae teithio i’r gofod yn ddrud gan fod rocedi’n ddrud iawn ac, hyd yn ddiweddar, yn cael eu defnyddio unwaith yn unig.

Roedd hynny’n wir hyd nes i gwmni SpaceX ddatblygu dulliau peirianyddol i alluogi ailddefnyddio rocedi, rhywbeth a oedd y tu hwnt i allu rhaglenni gofod gwladol megis NASA.