Rhyw dro, pan oedd fy nhad yn swyddog llywodraeth leol, mi ddaeth dynes leol ato fo yn gofyn am help.

Wnaeth dad ddim byd arbennig, dim ond trosglwyddo’r achos i swyddog arall perthnasol, ond mi ddatryswyd y broblem.

Ychydig ddyddiau wedyn, roedd y ddynes ar garreg y drws yn cynnig bag o domatos braf yn offrwm ddiolchgarwch. Gwrthod yn lân wnaeth fy nhad.