Fe lwyddodd Morgannwg i gipio’r Cwpan Gemau Undydd ddydd Llun mewn gornest fyrrach na’r arfer.

Oherwydd y glaw, fe gafodd nifer y pelawdau eu cwtogi o’r 50 arferol i 20, ac fe enillodd y sir Gymreig o 15 rhediad yn erbyn Gwlad yr Haf ar gae Trent Bridge yn Nottingham.