Eleni mae’r côr meibion enwog yn 60 oed, ac yn dathlu gyda dwy ddisg newydd, gwefan newydd sbon a chyngerdd yn Llundain…

Yn rhan o’i ddathliadau pen-blwydd 60 oed, mae Côr y Brythoniaid, un o gorau meibion mwya’ llwyddiannus Cymru, yn cyhoeddi dau gryno ddisg newydd.

Mae’r naill yn ganeuon traddodiadol, a’r llall yn addasiad o’r caneuon y bu’r côr o Flaenau Ffestiniog yn eu canu yng Ngŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion.