Peth hawdd iawn yw cwyno fod gormod o reolwyr ar gyflogau bras o fewn y Gwasanaeth Iechyd.

Faint o’r bobol yn edliw sydd wir yn gwybod beth mae’r rheolwyr hyn yn ei wneud?

Wel, mi fyddech chi’n disgwyl bod Eluned Morgan yn gwybod, a hithau wedi bod yn Weinidog Iechyd Cymru tan yn gymharol ddiweddar.

Mae ein Prif Weinidog newydd-ish wedi codi dipyn o nyth cacwn yr wythnos hon wrth sôn am gyflwr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG).

“Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig inni roi’r pwysau ar y bobl hynny sy’n rheoli’r GIG, y bobl yna sy’n derbyn cyflog sylweddol,” meddai Eluned Morgan.

“Mae Prif Weithredwyr ein Byrddau Iechyd yn cael eu talu chwarter miliwn o bunnoedd y flwyddyn. Gadewch i ni sicrhau eu bod yn fwy atebol am yr arian y mae’r trethdalwyr yn ei roi iddynt.”

Mi allech chi fod yn sinig a holi pam mai rŵan, a hithau eisoes wedi bod yn Weinidog Iechyd Llywodraeth Cymru rhwng 2021 a’r Haf hwn, y mae Eluned Morgan yn galw am werth am arian gan Bigwigs y Byrddau Iechyd.

Ond na hidiwn am hynny, gadewch i ni ystyried y symiau sylweddol o arian cyhoeddus dan sylw.

Mae’r Prif Weithredwyr yma, sydd mor aml yn tangyflawni, yn cael tua £250,000 o gyflog y flwyddyn.

Ac yn aml iawn, does gan y mwyafrif llethol o bobl y syniad lleiaf pwy ydyn nhw.

O leiaf mae gwleidyddion etholedig yn hysbys ac yn cario’r can yn gyhoeddus (i fod!).

Os na fydd y Gwasanaeth Iechyd yn gwella, y tebygolrwydd mawr yw mai Eluned Morgan fydd yn cael ei chosbi adeg lecsiwn.

Cymharu cyflogau

Mae Prif Weinidog Cymru ar £157,624 y flwyddyn ac, yn y pen draw, hi sy’n gyfrifol am y Gwasanaeth Iechyd.

Pam ddylai Prif Weithredwyr y saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru fod ar fwy o gyflog nag Eluned Morgan?

Beth am gyflwyno rheol ‘Neb i gael mwy na’r Prif Weinidog’?

Y ddadl ydy fod angen talu top dollar i gael y gorau… ond mewn difri calon, oes yna unrhyw un yn meddwl fod ganddon ni geffylau blaen disglair a deinamig yn gyrru’r Gwasanaeth Iechyd yma yng Nghymru?

Yr esiampl amlycaf o Fwrdd Iechyd yn methu yw’r un yn y gogledd.

Fe gafodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ei roi dan “fesurau arbennig” eto’r llynedd gan Lywodraeth Cymru, ond parhau mae’r llanast.

Fis yma fe ddaeth hi i’r fei fod y Cyfarwyddwr Ariannol Dros Dro wedi cael gormod o gyflog, a’i fod yn derbyn yr hyn fyddai wedi cyfateb i £292,236 y flwyddyn.

Yn ôl rheolau Llywodraeth Cymru, £170,919 yw’r uchafswm ddylai fod yn daladwy am wneud y swydd dan sylw.

A rhag i neb feddwl mai one-off oedd hyn, y llynedd yn y gogledd roedd uwch swyddog dros dro arall wedi ennill cyflog oedd yn cyfateb i £469,500 y flwyddyn!

Mae’r cyflogau yma yn boncyrs, ac er bod Eluned Morgan yn hwyr iawn yn troi’r drol, gwell hwyr na hwyrach.