Roedd dydd Llun diwethaf yn Ddiwrnod Owain Glyndŵr, ac fel bydda rywun yn ei ddisgwyl, rwyf wedi bod yn brysur dros y penwythnos yn arwain teithiau cerdded (Castell Biwmares) ac yn darlithio (Neuadd Carrog a Gŵyl Glyndŵr yn Llanfyllin). Yr hyn sydd yn ofnadwy o ddiddorol am Glyndŵr, efallai yn fwy nag unrhyw gymeriad arall o Hanes Cymru ac eithrio Llywelyn ap Gruffudd, yw’r cysylltiad emosiynol sydd gan y Cymry ag o.