Hen, hen beth bellach ydi dweud bod cynadleddau’r pleidiau mawr wedi newid yn llwyr, nad ydyn nhw’n ddim byd tebyg i gynadleddau ddeugain mlynedd a llai yn ôl.

Bryd hynny, yn ôl y farn gyffredin, roedd yna drafod go-iawn a gwneud penderfyniadau. Cynhadledd deyrngar ddi-ddadl y Ceidwadwyr oedd yr unig eithriad.