Mae’n sbel ers imi ysgrifennu am y gyfres Amazon Rings of Power, y sioe deledu ddrutaf erioed. Mi ddywedais i y dylen ni adael pobl lonydd i licio be’ maen nhw’n ei licio – a dwi’n dal at hynny. Ond, mewn act o hunan-dwyll o’r safon uchaf, fe wnes i hefyd roi lot o slac i’r gyfres, mor awyddus oeddwn i gael rhagor o gynyrchiadau am fyd Tolkien. Y gwir ydi, tra ‘mod i wedi torri ‘mol eisio hoffi