Ymddangosodd neges gan Futbology ar fy ffôn ddydd Sul.

Rydw i’n defnyddio’r app i gofnodi pob gêm rydw i wedi ei mynychu ers i fi ddechrau gwylio pêl-droed yn y 1970au. Ac mae’n debyg bod y pymthegfed o Fedi wedi bod yn ddyddiad pwysig yn hanes fy ngyrfa fel cefnogwr.

Yn union 48 mlynedd yn ôl ar y dyddiad yna, roeddwn i’n gorffwys fy mhen-ôl ar fainc bren yn Eisteddle Canton, Parc Ninian yn gwylio Caerdydd yn curo Dinamo Tblisi yng Nghwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop.