Er mwyn fy mhwysau gwaed, ni fyddaf yn darllen colofn Huw Onllwyn. Ond cyfeiriodd rhywun fi ati ar Fedi 12fed am ei bod yn enghraifft mor eithafol o gam-resymu [‘Hamas yw’r broblem’, Golwg 12/09/24].

Petawn yn olygydd Golwg, byddwn wedi gwrthod cyhoeddi’r fath sylwadau camarweiniol. Mae pwy bynnag sy’n dechrau ei lith drwy ddweud ‘Beth bynnag am hanes cymhleth Israel a’r Palestiniaid….’ yn cychwyn o bwynt o anwybodaeth ddofn.

Mae pedlera’r fath syniadau asgell-dde yn anghyfrifol, boed yn fwriadol ai peidio. Gwn mai bod yn bryfoclyd yw arbenigedd Huw Onllwyn. Ond mae gwahaniaeth rhwng hynny a mynegi rhagfarn noeth. Ac yn yr hinsawdd bresennol, mae’n beryglus.

 

Angharad Tomos

Penygroes

Gwynedd