Annwyl Rhian,

Rydw i yn hanner awydd talu am fod ar un o’r apps dêtio yma, ond hefyd mae’r syniad yn codi ofn arna i braidd. Does gen i ddim profiad o’r math yma o beth, a tydw i ddim yn spring chicken felly mae’r dechnoleg fodern yn peri pryder. Dwi’n stereoteip llwyr – wnaeth fy nghyn-ŵr adael am ddynes fengach, pan oedd o’n “mwynhau” creisis canol oed.