Gormod o ddim nid yw dda.

Ac mae’r arwyddion yn glir fod gormod o ymwelwyr yn bla ar ein llefydd prydfertha’.

A gwaeth yr eith hi – mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn dweud y bydd mwy yn dewis dod yma am wyliau, wrth i gynhesu byd eang olygu fod llefydd megis Gwlad Groeg am fynd yn rhy boeth i bobol fedru mwynhau eu hunain.

Bu galw ers blynyddoedd am dreth dwristiaeth er mwyn codi arian i godi sbwriel a barberciws bach ffoil, a darparu safleoedd parcio call yn y llecynnau poblogaidd.