Yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ddechrau’r mis fe gafodd adroddiad ei gyhoeddi gan y Comisiwn Cymunedau Cymraeg.

Roedd y Comisiwn wedi ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru, ac mae wedi galw ar y gwleidyddion i gymryd “camau radical” i warchod yr iaith.

Yn ôl y Comisiwn, mae angen rhoi statws arbennig i ardaloedd lle mae dros 40% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg.