Y peth gorau oll i’w wneud ar ôl yr Eisteddfod Genedlaethol yw dringo i grombil awyren EasyJet a hedfan yn bell, bell i ffwrdd o Gymru. I unrhyw le sy’n dwym ac yn braf. Wedi’r cyfan, fe fyddwn wedi dioddef yr hyn a elwir yn ‘haf’ yng Nghymru (sef glaw, oerfel a chymylau) ac yn haeddu rhywfaint o respite o’r tywydd, S4C ac Eluned Morgan (sydd, o bryd i’w gilydd, hefyd yn edrych fel pe bai’n well ganddi fod rhywle arall).
gan
Huw Onllwyn