Annwyl Rhian,

Ychydig fisoedd yn ôl wnaeth fy ngwraig gyfaddef ei bod wedi cael affêr gyda dyn wnaeth hi gwrdd yn ei gwaith, ond sydd bellach wedi symud i fyw dramor. Wnes i faddau iddi ac, yn ddiweddar, wnaethon ni ddarganfod ei bod yn feichiog. Rydan ni wedi bod yn trio am fabi ers blynyddoedd a dw i wrth fy modd. Ond alla i ddim helpu â meddwl nad fi yw’r tad. Mae’r teimladau yma wedi taflu cysgod dros ein llawenydd a hynny er bod fy ngwraig wedi fy sicrhau mai fy mhlentyn sydd yn ei bol. Os nad fi yw’r tad, dw i ddim yn siŵr os fydda i yn hapus i’w fagu fel fy mhlentyn fy hun. Ond, wedi dweud hynny, dw i wedi breuddwydio am fod yn dad ers blynyddoedd. Os ydan ni’n cael prawf DNA a bod hynny yn dangos nad fi yw’r tad, mae hynny wedyn am agor bocs Pandora a phob math o oblygiadau yn tasgu allan. A fydd hyn wastad yn gwestiwn yng nghefn fy meddwl neu a ddylwn i jest anghofio am gael prawf DNA?

Mae eich sefyllfa yn gymhleth, does dim dwywaith, ond dewch i ni drio dod a fo lawr i’r hyn sydd bwysicaf, gan ddechrau gydag eich priodas. Os ydi perthynas yn gadarn, yna fedra i ddim deall pam y byddai neb yn cael ei demtio i fod yn anffyddlon. Ac mae’r ffaith fod eich gwraig wedi syrthio i demtasiwn yn awgrymu i mi fod yna dwll yn rhywle yn rhwyd eich priodas. Y peth cyntaf i wneud felly yw darganfod be greodd y twll, a’i drwsio, neu o leiaf gwneud camau tuag at ei drwsio. Heb wneud hyn yna mi fydd yn anodd iawn i chi fedru ymddiried yn eich gwraig yn y dyfodol.

Roeddech chi wedi maddau i’ch gwraig cyn darganfod ei bod hi’n feichiog, medda chi. Doedd hynny, dw i’n siŵr, ddim yn hawdd. Mae’r ffaith eich bod chi wedi medru gwneud hynny yn sydyn ar ôl darganfod y twyll yn awgrymu eich bod chi wir yn ei charu ac wedi ymrwymo’n llwyr i wneud i’r berthynas lwyddo. Mi gymera i fod eich gwraig hefyd yn teimlo’r un peth.  Rydach chi’n gofyn i mi a ddyla chi anghofio cwestiynu pwy ydi’r tad.  Dyma ychydig o gwestiynau i chi ystyried: ydach chi wedi trafod gwneud prawf DNA gyda’ch gwraig? Os ydych, a’i bod hi’n hollol hapus i chi fynd ymlaen i wneud hynny, mi fyddai hynny’n awgrymu i mi ei bod hi reit siŵr mai chi ydi’r tad. Os nad ydi hi’n hapus…

Os na wnewch chi brawf DNA, beth os nad ydi’r plentyn yn edrych fel chi – ydach chi am feddwl yn syth nad chi ydi’r tad? Os nad ydi o yn datblygu nodweddion personoliaeth a diddordebau tebyg i chi – ydach chi am feddwl nad eich plentyn chi ydi o? A hynny, er eich bod chi – fel finnau – yn siŵr o adnabod plant sydd ddim yn edrych fel eu tadau nac yn rhannu’r un nodweddion personoliaeth? Mewn geiriau eraill, ydach chi wir yn meddwl ei bod hi’n bosib anghofio’r amheuaeth? Mi fyddai’n anodd dw i’n siŵr.

Amryw wedi magu plant dynion eraill

Dw i’n hel achau ac un o’r rheolau wrth wneud hynny ydi i beidio â chymryd fod llinach ochr y tad gant y cant yn gywir, achos y gwir amdani ydi mae’n debyg fod amryw wedi magu plant heb wybod nad nhw oedd eu tad biolegol. Mae bod yn dad yn llawer mwy na ffrwythloni wy. Mae bod yn dad yn golygu gofalu am, ac amddiffyn eich plant, eu cefnogi a’u disgyblu – darllen straeon amser gwely iddyn nhw, sefyll yn y glaw  a’r oerfel yn eu gwylio yn chware pêl-droed; cael pocedi diwaelod ac amynedd Job ar adegau. Mae’n golygu caru’r enaid bach yn eich gofal, a chael ei gariad yntau yn ôl. Mae miloedd ar filoedd wedi medru gwneud hyn yn llwyddiannus a hapus heb fod yn dad biolegol i’r plant – yn gwybod hynny neu ddim. Fedrwch chi wneud yr un peth? Mae bod yn dad yn rhywbeth rydach chi wedi dyheu amdano, wedi’r cyfan. Ac os ydach chi’n meddwl y medrwch chi, yna be ydi’r ots beth ddywed y prawf DNA? Chi fydd y tad ac os felly pam ddim agor bocs Pandora rŵan a bod yn hollol agored am y peth, rhag ofn iddo fo gael ei agor ymhen blynyddoedd? Mae hynny yn medru digwydd yn annisgwyl – dw i’n cofio clywed stori sut y bu i rywun sylweddoli fod rhywbeth o’i le pan ddechreuodd roi gwaed a darganfod mai grŵp gwaed A oedd o. Fe wyddai mai B ac O oedd ei rieni, fe wyddai hefyd nad oedd hi’n bosib i B ac O wneud A! Roedd gan ei rieni waith esbonio ac fe achosodd gythrwfl mawr yn y teulu.

Fedra i ddim dweud wrthoch chi beth i’w wneud, mi fydd yn rhaid i chi wneud y penderfyniad, ar y cyd â’ch gwraig. Beth bynnag fydd hynny, dw i’n gobeithio y byddwch wedyn yn medru ymlacio, anghofio’r gorffennol a mwynhau’r dyfodol.