Maen nhw’n gofyn be’ dw i isio bod pan fydda i’n hŷn. A dw i isio ateb, Ôsym, diolch, be amdana chi? Ond tydi rhoi atebion fel ’na i oedolion byth werth yr hasl. Maen nhw’n meddwl eich bod chi’n bod yn bowld neu’n dechrau defnyddio termau fel llond llaw a Ma’ hon yn gwybod ei meddwl ei hun! A dw i’n gorfod brathu ‘nhafod achos, wrth gwrs ’mod i’n gwybod fy meddwl fy hun! Meddwl pwy arall ’swn i’n gwybod?!