Mae yna gnwd go dda o nofelau a llyfrau newydd allan erbyn yr Eisteddfod bob blwyddyn. Dyma flas ar ambell un a gafodd ei gyhoeddi at yr haf eleni…

 FFUGLEN

Y Cysgod yn y Cof gan Bob Morris (Lolfa)

Yn y nofel ddirgelwch hon, mae Caerwyn Rowlands yn ceisio cofio digwyddiadau trawmatig y 1960au yng ngwersyll gwyliau Summerlands – lle sy’n seiliedig ar Butlin’s Pwllheli.