Mwy o gefnogaeth i Blaid Cymru wrth ymgysylltu “ar lefel Brydeinig”

Mae hi bob amser yn teimlo fel neidio ar y carwsél gwleidyddol pan mae arolwg barn newydd yn cael ei gyhoeddi – ond y tro hwn, mae’n newyddion go bwysig i Lafur a Phlaid Cymru.

Yn ôl arolwg Canolfan Llywodraethiant Cymru yn dilyn yr etholiad cyffredinol, mae Plaid Cymru ar hyn o bryd o fewn un pwynt o Lafur ar gyfer etholiad Senedd 2026.