Merch o Ferthyr, Bethan McLean, fydd yn chwarae rhan Nia ar lwyfan y Pafiliwn nos Sadwrn yma…

Roedd pobol wedi rhyfeddu bod 400 o bobol wedi dod i ymarferion cyntaf côr sioe agoriadol yr Eisteddfod eleni, Nia Ben Aur, ddechrau’r flwyddyn.

Fe fydd y côr yn camu ar lwyfan i ganu yn y sioe nos Sadwrn a nos Lun cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd.